Learning: Introduction – Dysgu: Cyflwyniad

The WBKA Learning & Development Committee is made up of several trustees and officers and meets quarterly to discuss and drive Learning & Development issues, escalating those matters which require wider Management Team and/or Council input/approval as appropriate. 

We are really keen to encourage members to avail themselves of suitable learning opportunities, and for WBKA to develop these when we can – a recent example being the General Husbandry Preparation Course held at Gregynog. 

These pages aim to bring together what is available, not only in the shape of formal exams & assessments, but also through courses or events being run by WBKA or other organisations, or locally by our member associations.

If you have a course or event you would like to share more widely via this section of the WBKA website, please contact ld@wbka.com

Learning is a continuing process for beekeepers. There is still so much we do not know about bees and new and evolving research sometimes changes our perspective on what we thought we already knew.

We welcome suggestions for ways in which we can further support members in their learning and development. If there is a particular area where members feel that some centrally organised training would be useful, please email me with your suggestion so we can consider your idea. 

Caroline Mullinex Learning and Development Lead Trustee

Mae Pwyllgor Dysgu a Datblygiad CGC yn cynnwys nifer o ymddiriedolwyr a swyddogion ac mae’n cwrdd bob chwarter i drafod ac i symud materion Dysgu a Datblygiad yn eu blaen. Mae’n blaenoriaethu’r materion hynny lle mae angen mewnbwn/cymeradwyaeth ehangach y Tîm Rheoli a/neu’r Cyngor, fel y bo’n briodol. 

Rydyn ni’n wirioneddol awyddus i annog aelodau i fanteisio ar bob cyfle dysgu addas, ac i CGC ddatblygu cyfleoedd pan allwn ni – enghraifft ddiweddar yw’r Cwrs Paratoi Hwsmonaeth Gyffredinol a gynhaliwyd yng nghanolfan Gregynog. 

Nod y tudalennau hyn yw crynhoi beth sydd ar gael, nid yn unig ar ffurf arholiadau ac asesiadau ffurfiol, ond hefyd drwy gyrsiau neu ddigwyddiadau sy’n cael eu rhedeg gan CGC neu fudiadau eraill, neu’n lleol gan ein haelod-gymdeithasau.

Os oes gennych chi gwrs neu ddigwyddiad yr hoffech ei rannu’n fwy cyffredinol drwy’r adran hon o wefan CGC, cysylltwch â  ld@wbka.com

Mae dysgu’n broses barhaus i wenynwyr. Mae cymaint nad ydyn ni’n ei wybod o hyd am wenyn ac weithiau mae ymchwil newydd ac esblygol yn newid ein safbwynt ar y wybodaeth a oedd gennym yn barod.

Rydyn ni’n croesawu awgrymiadau o ran sut gallwn ni roi rhagor o gefnogaeth i aelodau o ran dysgu a datblygiad. Os oes maes arbennig lle mae aelodau’n teimlo y gallai fod yn ddefnyddiol cael hyfforddiant wedi’i drefnu’n ganolog, anfonwch ebost ataf gyda’ch awgrym er mwyn i ni allu ystyried eich syniad.

Caroline Mullinex  Ymddiriedolwr Arwain Dysgu a Datblygiad